Yn 2008 comisiynwyd Owain i ysgrifennu Opera Un Act gyda geiriau gan y bardd Mei Mac.
Y weledigaeth oedd cyflwyno opera i stad o dai yng Nghaernarfon a thrawsnewid eu clwb ar ôl ysgol yn theatr yn llwyr. Cafodd y plant gyfle i ysgrifennu a pherfformio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol a chantorion opera.
Robyn Lyn - Tenor
Llio Evans - Soprano
Ed Holden - Beatboxer
Mei Mac - Bardd
Llinynnau Prima - Pedwarawd Llinynnol
Ariennir gan Plant Mewn Angen a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Gwrandewch ar y Finale, isod.