Wedi’i noddi gan Scottish Power Foundation, dychwelodd y prosiect, sy’n hyrwyddo undod, amrywiaeth a hygyrchedd i bawb, i brif lwyfan yr Eisteddfod ddydd Mercher 5ed Gorffennaf gyda darn newydd a gomisiynwyd yn arbennig o’r enw 'Making Waves'.
Wedi’i berfformio gan Gôr KIM o Dreffynnon, Grŵp Flamenco SCOPE o Gaer, Clwb Dawns WISP o’r Wyddgrug ac Amigos y Gymuned o Wrecsam, mae 'Making Waves' yn canolbwyntio ar emosiwn y môr sy’n llifo’n rhydd a sut y gall gysylltu pobl o gefndiroedd amrywiol. Fe'i hysgrifennwyd gan y bardd Aled Lewis Evans gyda mewnbwn aelodau o'r pedwar grŵp.
Mae’r grwpiau’n cynrychioli cymysgedd amrywiol o’r gymuned leol ac ni fyddent fel arfer yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiad fel yr Eisteddfod. Mae pob un o’r grwpiau wedi goresgyn heriau gwahanol i fod yn rhan o’r prosiect, megis dysgu canu mewn côr am y tro cyntaf, canu mewn ail iaith ac mae gan rai aelodau ystod o anableddau corfforol, anghenion addysgol arbennig a iechyd meddwl. Daeth myfyrwyr o Brifysgol Caer fel cynorthwywyr dawns a phedwarawd llinynnol o Brifysgol Bangor ynghyd ar gyfer y perfformiad.