Owain Llwyd gafodd y pleser o drefnu cerddoriaeth Casi Wyn ar gyfer llinynnau a thelyn.
Crynodeb o'r ffilm fer: Nid oedd Carw erioed wedi mentro y tu hwnt i'w gynefin cyfarwydd o'r blaen, ac roedd yn meddwl tybed a oedd cael ei dynnu gan y golau i'r goedwig yn syniad mor dda wedi'r cyfan. Ond roedd y goleuadau bach llachar yn dawnsio o'i gwmpas, gan ei wahodd i barhau.
Ffilm animeiddiedig yn llawn gobaith Nadoligaidd i'r teulu cyfan.
Dir. Casi Wyn & Efa Blosse-Mason
Animeiddwyr: Efa Blosse-Mason a Lila Babington. Cyfansoddwr: Casi Wyn. Cynhyrchydd: Griff Lynch
Llinynnau wedi'u perfformio a'u recordio gan: Simmy Singh