Comisiynwyd Owain gan y UK Proms i drefnu a cherddorfaethu tua. 2 awr o anthemau dawns clasurol ar gyfer y Dance Anthem Orchestra.
I raglennu, cymysgu a chynhyrchu’r traciau cefndir, cydweithiodd Owain gyda’r cerddor dawnus Owen Gurry.
Mae’r sioe yn cynnwys cerddorfa o 30, unawdwyr, DJ a Dawnswyr - yn perfformio rhai o draciau dawns mwyaf poblogaidd y 4 degawd diwethaf, gan gynnwys:
Strings of Life, Unfinished Sympathy, Music Sounds Better with You, Lola’s Theme, One More Time, Porcelain, You Got The Love, Freed from Desire, Feel the love, Bounce, Rhythm Is a Dancer, Outro, Adagio for Strings, Cafe del Mar, Sandstorm, Right Here Right Now, 9PM Till I come, Better Off Alone, Everybody’s Free, Insomnia, Ride on Time, Summertime Sadness a Children.
Yn ogystal â threfnu a cherddorfaethu anthemau dawns glasurol, Owain hefyd a gyfansoddodd yr Agorawd, sy'n agor y sioe.
Mae'r taith 2024 yn ymweld â lleoliadau eiconig fel Parc Attingham yn Amwythig, Castell Bolsover yn Swydd Derby, Castell Greystoke yn Cumbria a Phlas Newydd ar Ynys Môn.